Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Myfyrwraig yn ennill ysgoloriaeth theatr o fri
Trechodd Holly Bluett, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Penybont, 7,000 o sêr theatr y dyfodol i ennill ysgoloriaeth i ysgol o fri yn Llundain.
Roedd Holly, 18, a astudiodd y Ddiploma Genedlaethol mewn Theatr Gerdd, yn un o ddim ond 25 ymgeisydd i dderbyn yr ysgoloriaethau yn talu am y ffioedd £30,000 yn Ysgol Celfyddydau Perfformio Birds yn Llundain.
Dywedodd Holly, o’r Barri, iddi agor y llythyr cynnig yn disgwyl “llythyr gwrthod arall”, a gweiddi pan sylweddolodd yr hyn roedd wedi ennill.
Dywedodd “Fe wnes gais i bum coleg, ac roeddwn wedi cael tri llythyr gwrthod cyn i mi gael hwn, felly roeddwn yn disgwyl un arall yr un fath. Rwyf wrth fy modd i gael fy nerbyn, a hefyd i gael yr ysgoloriaeth.”
Cynigiwyd lle i Holly hefyd yn Academa Celfyddydau Theatr Italia Conti.
“Fe fyddwn i wrth fy modd yn perfformio yn y West End yn Llundain. Dyna’r cyfan rwyf wedi bod eisiau ei wneud erioed.”
Bydd Holly’n chwarae Eponine yng nghynhyrchiad y Coleg o Les Miserables yr wythnos nesaf.
Roedd Holly hefyd yn rhan o Truedynamix, grŵp dawns Coleg Penybont a ddaeth yn ail yn sioe dalent boblogaidd Don’t Stop Believing ar Channel 5 y llynedd.
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Penybont “Rydym bob amser wedi bod â gobeithion uchel o Holly. Roedd ei thalent yn hollol amlwg i ni o’r cychwyn cyntaf. Mae hi mor galed i fynd i mewn i’r ysgolion hyn ond ein profiad yw y gall ein myfyrwyr fod yn llwyddiannus iawn.”